Beth yw Bwrdd Prosiect Cynllun Creu Lle Abergele?
Mae Bwrdd Prosiect Cynllun Creu Lle Abergele yn Dîm Prosiect sefydledig a fydd yn cynnwys swyddogion mewnol ac allanol allweddol, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o'r gymuned leol.
Prif ddiben y Bwrdd yw goruchwylio’r broses o baratoi'r cynllun creu lle a chyflwyno’r prosiectau a ddewisir. Bydd y Bwrdd hefyd yn cymryd rhan arweiniol wrth sicrhau cyllid perthnasol i ddarparu prosiectau yn ogystal â rheoli unrhyw risgiau a materion sy'n codi.
Bydd yr holl raglenni, cofnodion ac adroddiadau cynnydd ar gael ar y wefan hon yn yr adran Llyfrgell y Cyfryngau.