Gwella Niferoedd Ymwelwyr

Nid oes unrhyw beth i ddenu twristiaid i'r dref bellach. Heb dwristiaid ni fydd y siopau bach yn goroesi. Mae arnom angen marchnad eto, ond un fawr sy'n denu pobl.

Sgorio a gwneud sylw ar y Syniad yma

Commenting is now closed.

Sylwadau a sgoriau

4.7 out of 5 (11 ratings)
90.9%
0%
0%
9.1%
0%
  • Mae Abergele angen hunaniaeth, rheswm i bobl ymweld â’r dref. Mae gan Abergele lawer o atyniadau; y traeth, llwybrau cerdded, y castell, eglwysi, a hanes. Gellir cynhyrchu map gwybodaeth sy’n arwain ymwelwyr o amgylch y dref, gyda phwyntiau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Cyflwyno placiau bychain gyda gwybodaeth arnynt ar ochrau adeiladau, ar y palmant ac ati. Pam nad oes gan Abergele thema ganoloesol, gan wneud y mwyaf o'r castell ac Eglwys San Mihangel, creu cerflun o Farchog Abergele neu gymeriad tebyg a gosod rhai o amgylch y dref. Byddai’n gyfle i ymwelwyr fynd ar y llwybr i ddod o hyd i’r holl gymeriadau. Byddai'n rhaid i ymwelwyr dreulio ychydig o oriau yn y dref a byddai’n rhywbeth ar gyfer plant a phobl hŷn i fwynhau a dylai ddenu rhai selogion sy’n hoffi tynnu lluniau 'hunlun'. Cofio Superlambanana o Lerpwl flynyddoedd yn ôl. Mae Sailsbury yn gwneud rhywbeth tebyg ar hyn o bryd o'r enw Llwybr Barwniaid.

    By K. Robinson –
  • Mae’n bendant angen rhywbeth i ddenu twristiaid yma. Dylai Castell Gwrych helpu, ond mae angen gwneud mwy. Efallai annog mwy o fanwerthwyr yma. Rhoi rheswm i bobl ymweld â’r ardal. Mwy o ddigwyddiadau a chyfleusterau yn ardal Pentre Mawr a’r traeth.

    By Linda Ellis –

^ Yn ôl i frig y dudalen