Y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf

Ym mis Medi fe ddywedoch chi wrthym am eich blaenoriaethau a’ch syniadau i wella canol y dref.

Astudiaeth Canol Tref Abergele

Cynllun Gweithedu Arfaethedig

Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r holiadur: 

https://www.surveymonkey.co.uk/r/arolwgtrefabergele2

Arddangosfa cynigion Cynllun Canol y Dref Abergele

Bydd arddangosfa o gynigion a syniadau ar gyfer canol tref Abergele yn agored i'r cyhoedd ar 20 a 21 Hydref yng ngham diweddaraf Cynllun Creu Lleoedd Abergele, proses sydd ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Yn dilyn ymateb da i ddigwyddiad cymunedol Cynllun Creu Lleoedd Abergele ym mis Medi, adborth a sylwadau yn dilyn trafodaethau ac arolwg ar-lein, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Ymgynghorwyr Chris Jones Regeneration wedi bod yn dyfeisio cynigion â'r nod i sicrhau ffyniant economaidd a llesiant cymdeithasol yng nghanol y dref. 

Mae syniadau ar gyfer creu mwy o ardaloedd cyhoeddus yn y dref yn ogystal â gwneud defnydd o nifer o adeiladau adnabyddus yno ymysg nifer o gynigion ar gyfer canol y dref, a fydd ar ddangos i'r cyhoedd yn y digwyddiad, cyn y bydd ymgynghori pellach yn ystod yr wythnosau i ddod. 

Mae trigolion lleol, busnesau a chyrff cymunedol nawr wedi'u gwahodd i weld y cynigion sydd wedi cael eu casglu at ei gilydd, a chynnig eu sylwadau.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Aelod Cabinet Conwy, y Cyng Chris Hughes: "Rydym yn falch iawn o ymateb y gymuned tuag at y gwaith sydd dan sylw yng Nghynllun Creu Lleoedd Abergele.  Buaswn yn annog pawb i fynychu'r digwyddiadau er mwyn cael dweud eu barn am gam diweddaraf y broses."

Mae'r digwyddiad cymunedol deuddydd yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, Stryd y Farchnad, o 10am tan 8pm dydd Iau, 20 Medi ac o 10am tan 4pm dydd Gwener, 21 Medi 2016. 

Bydd aelodau o dîm ymgynghori a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth law i rannu'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y dref ac i drafod ffyrdd o'u gweithredu.

Dweud eich dweud!

Dewch i weld y cynigion:

10am - 8pm dydd Iau, 20 Hydref

10am - 4pm, dydd Gwener, 21 Hydref

Canolfan Ieuenctid a Chymuned, Yr Hen Ysgol, Stryd y Farchnad.

Dweud eich Dweud ynglŷn â Syniadau ar gyfer Canol Tref Abergele

8/9 Medi

Mae digwyddiad cymunedol Cynllun Creu Lleoedd Abergele ar 8 a 9 Medi yn canolbwyntio ar greu pethau yng nghanol y dref.

Drwy ymateb i'r adborth o'r ymgynghoriad yn 2015, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penodi Chris Jones Regeneration i'w cefnogi nhw a phartneriaid eraill i droi syniadau yn weledigaeth a chynllun gweithredu. Mae’r tîm ymgynghori wedi gweithio yng nghanol nifer o drefi ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys trefi Blaenau Ffestiniog a Chaergybi yng Ngogledd Cymru, sydd wedi datblygu cynlluniau ac wedi ysgogi gweithgarwch a buddsoddiad sydd wedi ategu anghenion pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Aelod Cabinet Conwy, y Cyng Chris Hughes: “Mi gawsom ymateb gwych yn ystod ymgynghoriad y llynedd ac fe dynnodd sylw at nifer o faterion yn ardal ehangach y dref. Mae hi nawr yn bryd dechrau datblygu syniadau a symud rhain i fod yn gynigion cadarn dros y misoedd nesaf. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd rhan eto ac yn ein helpu i lunio blaenoriaethau a'n helpu i wneud gwahaniaeth yn Abergele."

Mae’r digwyddiad cymunedol deuddydd yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, Stryd y Farchnad, o 12.30pm tan 8pm dydd Iau, 8 Medi ac o 9am tan 4pm dydd Gwener, 9 Medi 2016.

Bydd aelodau o’r tîm ymgynghori a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael i wrando ar safbwyntiau pobl ac i ddechrau llunio syniadau.

Gallwch ein cynorthywo hefyd drwy lenwi arolwg byr yn dweud eich barn am ganol y dref. Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r holiadur, cyn 5pm, ddydd Gwener, 16 Medi.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/arolwgtrefabergele

Cynllun Creu LLeoedd Abergele: Beth hoffech chi i ddigwydd yng nghanol tref Abergele?

Cynllun Lle Abergele – Diweddariad

Mae gwaith ar Gynllun Lle Abergele yn parhau i fynd rhagddo, er rhaid cyfaddef nad yw pob agwedd arno yn weladwy eto i'r cyhoedd. 

Mae'r Cyngor wedi dod â phob un o'r prosiectau a awgrymodd y gymuned drwy'r ymgynghoriad at ei gilydd a’u categoreiddio, ac mae'r rhain wedi eu dyrannu i wasanaethau'r penodol cyngor.  Ni all pob prosiect ddigwydd ar unwaith, ond bydd pob gwasanaeth yn asesu'r prosiectau o ran ymarferoldeb, hyfywedd a phwysigrwydd i’r gymuned. Fel rydym wedi dweud o'r dechrau, nid yw pob un o'r syniadau yn realistig nac yn gyraeddadwy am resymau technegol neu ariannol, ond rydym am wneud yn siŵr bod cynifer â phosibl yn digwydd a byddwn yn canolbwyntio ein sylw ar yr hyn sydd bwysicaf i Abergele.   

Mae briffiau datblygu wedi eu paratoi ar gyfer nifer o safleoedd strategol allweddol a datblygiadau posibl y bydd ymgynghorwyr yn cael eu comisiynu ar eu cyfer.   Unwaith iddynt gael eu rhoi ar waith, bydd y rhain yn debygol o weld newidiadau mawr i'r dref a mynd i'r afael â materion allweddol megis llif traffig, argaeledd parcio, tai o safon isel ac ymddangosiad blaen siop. 

Mae adroddiad meincnodi annibynnol wedi'i gwblhau i nodi materion allweddol gan berchnogion busnes ac o safbwynt y cwsmer.   Mae Fforwm Busnes, gan gynnwys aelodau o'r Cyngor Tref, wedi ei sefydlu ar gyfer cyswllt cynnar ar gyfer unrhyw waith prosiect canol tref a bydd ymgynghorwyr yn cael eu defnyddio i baratoi cynllun gwella canol tref penodol.   

Unwaith y bydd y dogfennau wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor bydd diweddariadau ar gael ar wefan CLLA lle gallwch gofrestru am y newyddion diweddaraf. 

Ymgynghoriad Cymunedol – Diweddariad

Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cymunedol rhwng 6 Gorffennaf ac 28 Awst 2015. Diolch i’r holl drigolion a busnesau a fynychodd arddangosfeydd ymgynghori'r Cynllun Creu Lleoedd Abergele ac a gyflwynodd syniadau am brosiectau ar gyfer y Cynllun drwy'r wefan.  Rydym wedi’n llethu gyda’r nifer o syniadau prosiect a gyflwynwyd a'r angerdd clir ar gyfer y dref. Mae syniadau am brosiectau sy'n amrywio o adfywio canol y dref, gwelliannau i Barc Pentre Mawr, gwelliannau i dagfeydd traffig i lan y môr gwell yn ddim ond rhai ohonynt.

Yr ydym yn awr yn y broses o adolygu’r holl syniadau prosiect cyn paratoi Cynllun drafft ar gyfer cymuned Abergele iddynt ei weld a rhoi sylwadau.  Byddwn yn asesu prosiectau yn seiliedig ar nifer o feini prawf, gan gynnwys yr arian a’r cyllid sydd ar gael.  Unwaith y bydd y Cynllun wedi’i gwblhau a’ch bod chi fel preswylydd Abergele yn fodlon ar sut mae'n edrych i wella'r dref, gallwn ddechrau darparu'r prosiectau rydych am eu gweld a gwneud Abergele yn lle gwell.  Dylai'r Cynllun drafft fod wedi’i gwblhau yn gynnar ym mis Rhagfyr 2015, ac ar ôl hynny byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith eto a gofyn am eich sylwadau.

Yn y cyfamser, gallwch ddal gofrestru ar wefan y Cynllun Creu Lleoedd Abergele, neu ewch i'r tudalennau twitter a facebook.

Gwefan: www.conwy.gov.uk/cclla

facebook: https://www.facebook.com/cynllungeleplan/

Twitter: https://twitter.com/CynllunGelePlan

^ Yn ôl i frig y dudalen