Pryd mae syniadau yn dod yn brosiectau?

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y ddogfen lansio wedi gorffen a bod yr holl syniadau wedi cael eu cyflwyno, bydd yna broses o adolygu a blaenoriaethu prosiectau. Bydd prosiectau’n cael eu blaenoriaethu ar ôl ystyried pa mor ymarferol ydynt, y gallu i’w cyflawni, y cyllid sydd ar gael a’u pwysigrwydd i drigolion Abergele.

Mae'n annhebygol y byddwn yn bwrw ymlaen â’r holl syniadau a gyflwynir fel prosiectau y gellir eu darparu oherwydd yr asesiad uchod.

Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i drigolion Abergele wrth i'r broses hon fynd yn ei blaen. Mae'n bwysig cofrestru os hoffech chi dderbyn diweddariadau rheolaidd.

Yn ôl i gwestiynau eraill

^ Yn ôl i frig y dudalen