Mae Abergele angen hunaniaeth, rheswm i bobl ymweld â’r dref. Mae gan Abergele lawer o atyniadau; y traeth, llwybrau cerdded, y castell, eglwysi, a hanes. Gellir cynhyrchu map gwybodaeth sy’n arwain ymwelwyr o amgylch y dref, gyda phwyntiau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Cyflwyno placiau bychain gyda gwybodaeth arnynt ar ochrau adeiladau, ar y palmant ac ati. Pam nad oes gan Abergele thema ganoloesol, gan wneud y mwyaf o'r castell ac Eglwys San Mihangel, creu cerflun o Farchog Abergele neu gymeriad tebyg a gosod rhai o amgylch y dref. Byddai’n gyfle i ymwelwyr fynd ar y llwybr i ddod o hyd i’r holl gymeriadau. Byddai'n rhaid i ymwelwyr dreulio ychydig o oriau yn y dref a byddai’n rhywbeth ar gyfer plant a phobl hŷn i fwynhau a dylai ddenu rhai selogion sy’n hoffi tynnu lluniau 'hunlun'. Cofio Superlambanana o Lerpwl flynyddoedd yn ôl. Mae Sailsbury yn gwneud rhywbeth tebyg ar hyn o bryd o'r enw Llwybr Barwniaid.